![]() |
![]() |
|
Hervé and the Wolf: Saints and their Beasts Essay by Ceridwen Lloyd-Morgan |
|
| Go to English version | Hervé |
| Darllen delweddau o fucheddau'r saint
Nid oedd bwlch mawr rhwng llên gwerin a thestunau llenyddol yn yr Oesoedd Canol. Pontiai'r un traddodiadau y ddau fyd, gan gryfhau'r un ddaliadau, yn enwedig yn achos bucheddau'r saint. Yn Lladin ac o fewn sefydliadau eglwysig y cyfansoddwyd y bucheddau yn gyntaf oll, mae'n debyg, a'u rhoi ar glawr. Gan mai eu pwrpas oedd addysgu'r Cristion a chryfhau ei ffydd, fe gafodd y testunau eu trosi i'r ieithoedd brodorol, boed Cymraeg, Llydaweg, Ffrangeg neu Saesneg, a'u darllen yn uchel i'r mwyafrif llethol na fedrai ddarllen. Ond dylanwadodd chwedlau'r bobl am ferthyrdod a gwyrthiau'r saint ar y bucheddau llenyddol hyn. Teimlai'r werin hoffter arbennig tuag at eu nawddseintiau lleol ac at y saint a gysylltwyd â phrofiadau a gweithgaredau cyffredin dynol ryw, ac arferid gweddïo i'r rhai priodol am eu cymorth arbenigol mewn argyfwng. Yn Llydaw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed fe fyddai copi o Buhez ar Sent, sef casgliadau printiedig bychan o fucheddau'r saint, gan bob teulu, hyd yn oed ar yr aelwydydd tlotaf. Wrth i'r werin ddarllen y chwedlau neu clywed eraill yn eu darllen neu eu hadrodd, ategwyd y gwersi gan y delweddau gweledol a welsant o'u cwmpas. Yn yr eglwysi darlunwyd y bucheddau mewn murluniau, megis y llun o San Cristoffer yn Llanilltud Fawr, ac mewn ffenestri lliw, fel y ddau bortread o'r Santes Apolonia, nawddsantes y rhai sy'n dioddef o'r ddannodd, yn eglwys Gresffordd. Enghreifftiau prin o'r cyfoeth a fu unwaith yng Nghymru yw'r lluniau hynny o'r bymthegfed ganrif. Rhoi bywyd newydd i'r traddodiad gweledol cynnar hwnnw y mae'r paentiadau yn y gyfres Hervé a'r Blaidd, er mor wahanol yw eu diben a'u pwrpas i'r rhai canoloesol. Ond fel yn y lluniau eglwysig, darlunio digwyddiadau allweddol ym mywyd y sant y mae pob un o'r rhain hefyd. Yn Yr Hogyn Dall a'i Greadur, er enghraifft, dofwyd y blaidd gan y sant. Funudau'n unig ar ôl lladd a llarpio ci y sant, ildia'r creadur i'r dyn duwiol ac fe'i ddangosir yn myfyrio ar oblygiadau'r digwyddiad. Tristwch yn gymysg a maddeuant a welir ar wyneb y sant, tra bod ei freichiau'n cwmpasu'r anifail yn dyner ond yn ei wastrodi yn ogystal, wrth i'r ddau ystyried eu perthynas newydd, annisgwyl. Er i'r Saeson fabwysiadau San Sior yn nawddsant iddynt, o Anatolia, sydd bellach yn rhan o Dwrci, y daw hanes y sant, ac mae'r chwedlau lu a'r lluniau o bob math sydd yn cofnodi ei fuchedd a'i wyrthiau yn tystio i'w boblogrwydd mewn llawer iawn o wledydd. Yn Sior Wyrdd cyflwynir elfennau cyfarwydd: y sant ar gefn ei ryfelfarch yn gwanu'r ddraig â'i waywffon, tra bod y foneddiges ifanc, prau'r bwystfil, yn disgwyl yn dawel hyderus yn y cefndir, ei llonyddwch yn gwrthbwynt i'r symudiadau dramatig yn y tu blaen. Ceir yr un tawelwch yn Ehediad Gwenoliaid uwchben y Cae Melyn, lle mae'r sant yn aros ennyd i fyfyrio ar ei fuddugoliaeth wrth sathru corff y ddraig. Hyd yn oed yn y golygfeydd mwyaf treisgar fe gyferbynnir llonyddwch a symudiad. Yn Cofleidiad Gwyllt a Maes y Gad y meysydd patrymog-flodeuog sydd yn creu'r tawelwch, a'u gwastadoedd yn dwysáu dyfnder a gofod yn ogystal â symudiadau'r ymladdwyr. Os oes trais a marwolaeth yn y paentiadau hyn, nid golygfeydd arswydus o fyd y ffilm sydd yma. Nid gwaed mo'r coch llachar ond lliw tanllyd ceffyl, brân a blaidd, oherwydd cysyniad haniaethol - yr ymryson tragwyddol rhwng pwerau bywyd a marwolaeth - a gyflwynir yma, frwydr lle y mae'n rhaid i fywyd ei hennill. Wedi eu dal ar anterth eu hymladdfa symbolaidd, megis dawnsio y mae Sior a'r ddraig, neu Hervé a'r blaidd, yn dilyn camau priodol a threfnus y ddawns ddefodol a dynghedwyd iddynt. Fe'u hyrddir i'r awyr, fe ymddengys, gan ffyrnigrwydd yr ymgiprys, ond codant hefyd o hualau'r ddaear i fyd arall. Cyferbynnir cnawd llyfn, diamddiffyn y dyn â dannedd miniog, blew garw neu groen pigog, a ategir yn ei dro yn naill y coed celyn yn Ehediad Gwenoliaid a Sior Wyrdd. Ochr yn ochr â chadernid solet cyfleir ysgafnder trwy symudiadau rhydd dyn ac anifail yn Cofleidiad Gwyllt a Maes y Gad ac yn arbennig yn chwifiadau mwng a chynffon y ceffyl yn Sior Wyrdd, neu eto yn nawns chwim y gwenoliaid a chyhwfan ysgafn y rhuban sydd ynghlwm wrth y waywffon yn Ehediad Gwenoliaid. Daw'r elfennau hyn â naws rhyfeddol o addfwyn, benywaidd bron, i olygfa rhyfelgar, gwrywaidd. Adleisir ffurfiau a phatrymau o lun i lun yn ogystal ag o fewn gweithiau unigol: yng nghylchoedd cywrain y drysfa a chordeddu cynffon y ddraig yn Sior Wyrdd, er enghraifft. Mae'r palet, lle y tawelir y lliwiau cryf, llachar, gan wawr dywyll a phrudd, eto'n creu dolen gyswllt rhwng y gweithiau unigol. Tanlinellir naws a symboliaeth pob un gan y meysydd blodeuog, o'r pelydr du bygythiol yn Sior Wyrdd i lili'r dyffryn, swynol ei phersawr ond marwol ei gwenwyn, yn Maes y Gad. Daw llu o luniau'r gorffennol i'r meddwl wrth astudio'r paentiadau hyn. Fe'n hatgoffir o arlunwyr Eidalaidd yr Oesoedd Canol a'r Dadeni wrth inni sylwi ar lan y môr ac ar ogof greigiog y ddraig yn Sior Wyrdd, er enghraifft, heb sôn am gyfansoddiad y lluniau. Yn ogystal â thraddodiad yr Eidal, mae'r meysydd blodeuog yn cysylltu'r gwaith â'r brodweithiau enwog La Dame à la Licorne (Y Fonesig a'r Ungorn). Ond os etifeddu geirfa artistig gynharach a wnaeth yr arlunydd, fe'i trosodd a'i haddasodd at ddibenion newydd, cyfoes. Yn union fel yng nghyfres flaenorol yr artist, Temtasiynau Unigrwydd, fel arfer cyflwynir y saint mewn gwisg fodern, ddinesig, sydd yn datgan yn glir mai lluniau sy'n perthyn i heddiw, nid ddoe, ydynt. Os portreadir Sior mewn siaced o frodwaith ecsotig a throwser llac, Twrcaidd, yn Ehediad Gwenoliaid, er mwyn ein hatgoffa o'i wreiddiau yn y Dwyrain Canol, yn Sior Werdd daw legins a ffrog syml ond ffasiynol y ferch â ni yn ôl at y byd modern. Daw testunau'r lluniau o draddodiadau hynafol, ond mae'r ymdriniaeth yn gwbl fodern. Ac yn union fel y mae'r milwr o'r Rhyfel Byd Cyntaf yng ngwaith David Jones yn cynrychioli holl ryfelgwyr Prydain o'r gorffennol pell hyd heddiw, yn yr un modd, nid yw Sior, wrth iddo yntau wisgo'r un helmed dun, yn perthyn i un cyfnod arbennig ond i bob oes. Paentiadau trawiadol sydd yn dal ein sylw ar amrantiad yw'r rhain, ond rhai cymhleth hefyd, sydd yn ildio'u dyfnderoedd grymus yn raddol wrth inni eu hastudio. Wrth oedi o'u blaen, gwelwn elfennau gwrthgyferbyniol a chyfatebol yn araf ddod i gydbwysedd tawel a chynganeddus o fewn pob gwaith unigol ac ar draws y gyfres.
|
Magwyd Ceridwen Lloyd-Morgan mewn pentref yn Sir Gaernarfon ond mae hi'n byw yng Ngheredigion er 1982. Dechreuodd fynychu arddangosfeydd yn ferch fach yn llaw ei gwyddonydd o fam, a meithrinwyd ei diddordeb cynnar mewn hanes a beirniadaeth gelf gan athrawes gelf ysbrydoledig. Ymddeolodd yn gynnar yn 2006 o'i swydd fel Pennaeth Llawysgrifau a Delweddau Gweledol yn y Llyfrgell Genedlaethol. Wedi cyhoeddi'n eang ar artistiaid Cymreig, gan gynnwys llyfrau ar Gwen John a Mary Lloyd Jones, a chydolygu cyfrolau gyda'r arlunwyr Ivor Davies (ym 1999) a Christine Kinsey (yn 2005), ar hyn o bryd mae hi'n paratoi llyfr ar ddelweddau mewn llawysgrifau canoloesol o Gymru. |
| All images Copyright © Clive Hicks-Jenkins For sales enquiries, please contact MoMA Wales. |